Pen yn y baw, dy din yn yr haul
Gorfoledd y cei di wrth ddyfalbarhau
I ba le yr ei di heb wybod y gwir
Caria di mlaen i balu y tir
Hedfan i'r trofannau i ymestyn dy blu
Heb ofni y cyfoedion a aberthaist di
I ba gyfeiriad yr ei di nawr?
Ti'n plymio'n syth i'r llawr
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am y we ti wedi ei weu
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am y magl ti wedi ei greu
I ddinistrio bob un bywyd
A gobaith unrhyw un
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am bopeth ti wedi ei wneud
Ni wrandaist di ar leisiau dy bac
Unrhyw awgrymiadau, mi ffrwydraist yn grac
Ond yn yr anialwch, ti'n hercian yn gloff
Dim affliw o ots, mi lwyddai rhyw ffordd
Udaist yn llon yn gyffro i gyd
Glyfoeriaist dy boer dros ddarlun o'r byd
Rhwygaist y cig o'r asgwrn a'r cnawd
Heb boeni am ddagrau na braw
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am y we ti wedi ei weu
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am y magl ti wedi ei greu
I ddinistrio bob un bywyd
A gobaith unrhyw un
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am bopeth ti wedi ei
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Gwastraffu amser, gwastraffu amser
Ti'n gwastraffu amser pawb
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am y we ti wedi ei weu
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am y magl ti wedi ei greu
I ddinistrio bob un bywyd
A gobaith unrhyw un
I ddinistrio bob un bywyd
A gobaith unrhyw un
Cymeradwyaeth os gwelwch yn dda
Am bopeth ti wedi ei wneud
Lyrics provided by LRCLIB