"Marconi" is a single by Mellt, released 16th October 2023. Full lyrics are available below.
Lyrics
Marconi
Dyma esgus i ddechrau o'r diwedd
Diolch am eich amynedd
Ar y cyd, natho ni golli ein cydwybod
Ond creda fi, mae 'na bethe smo ni'n gwybod
Mae'n amser symud mynyddoedd
O dan y straen ti'n cario mlaen
O dan y paent dwi'n gweld y graen
Ac yn y gofod pell fydd llais Marconi'n mynd am byth
O wel, cwympodd y byd o'i echel
Ffarwel, mae'n edrych fel
Hwyl fawr, i hanes y canrifoedd
Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd
Mae'n amser symud mynyddoedd
O dan y straen ti'n cario mlaen
O dan y paent dwi'n gweld y graen
Ac yn y gofod pell fydd llais Marconi'n mynd
O dan yr haul ni'n dal ymlaen
Fel pryfed bach o dan y dail
Ac yn y gofod pell fydd llais Marconi'n mynd am byth
O dan y straen ti'n cario mlaen
O dan y paent dwi'n gweld y graen
Ac yn y gofod pell fydd llais Marconi'n mynd
O dan dy draed mae gwres y craidd
Yn tynnu'r lleuad at ei chwaer
Ac yn y gofod pell fydd llais Marconi'n mynd am byth