Fe wariais yn galed drwy ddyfalbarhau
I gyflawni'r freuddwyd fawr
Baglais ac fe laddaist fy ysbryd
Yn sgerbwd ar y llawr
'Sgwydais y sbwriel, ciciais y dail wrth y rheilffordd
Darganfyddais fy hun yn crynu yn gorn wrth y groesffordd
Crwydrais y strydoedd yn meddwl yn ffol
Am dactegau i fod yn lwyddiant
Drwy ffenestri tywyll, fflachiodd y cyfle
I ymddangos mewn cwis adloniant
A thrwy'r blwch post, glaniodd y tocyn ar y bwrdd
Dyma'r galwad euraidd i olchi'r tristwch i ffwrdd
I feddwl nad o'n i'n dy nabod tan
I ni'n dau gystadlu ar y sgrîn
Pwy fyddai'n meddwl y galle ti fod
Mor greulon i gamdrin
Fy moment fawr gyda miloedd yn gwylio o'n cymdeithas?
Codaist yr amlen, rhwygaist y felcro mor gas
Ond, pam oedd rhaid ti wenu?
Oedda ti yn crefu
I'r wlad i ngweld i'n fethiant?
Sut fedrwn i ddim sylwi ar Gymru gyfan
Yn chwerthin ar fy aflwyddiant?
A nawr dwi'n rhynnu yn y gell, er gollwng y gyllell
Dim siawns am faddeuant na chyfle i droi'r cloc yn ôl
Ond fedrwn i ddim maddau i ti am ategu
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
Dim cuddly toy na hyd yn oed car
Dim cegin newydd na self service bar
Dim cash prize na gwyliau i'r cyfandir
Just ateb sych yn fy ngadael ar y sychdir
'Na i gyd oedd gan ti i ddweud oedd
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
Dim jacpot i ti
Jacpot i ti
So
Dim jacpot i ni
Lyrics provided by LRCLIB